THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

Ateb cwestiynau Cyfweliad

Er na fyddi byth yn gwybod yn sicr pa gwestiynau bydd yn cael eu gofyn mewn cyfweliad, mae’n wastad yn syniad da i baratoi cwestiynau cyfweliad.

Mae angen i’r cyflogwr ddeall pam yr wyt ti eisiau’r swydd a pam mai ti yw’r person gorau ar gyfer y rôl. Mae’r ffordd y byddi di’n ateb cwestiynau yn ffactor allweddol yn y penderfyniad o roi’r swydd i ti neu beidio.

Dyma rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad y byddi di mwyaf tebygol o’u hwynebu…

Ond sut mae ateb y cwestiynau?

Dyma rai enghreifftiau i dy gynorthwyo i ateb cwestiynau cyfweld

Beth sydd gyda thi i’w gynnig a fydd yn fuddiol i’r rôl hon?

Bydd angen siarad yn hyderus am dy hun a thynnu sylw at dy sgiliau, rhinweddau personol a’r cyflawniadau priodol sy’n cyd-fynd â’r disgrifiad swydd. Bydd ymarfer ateb i’r cwestiwn yma o flaen llaw yn syniad da ar gyfer unrhyw gyfweliad!

Beth fyddet ti'n ei wneud ar ôl sylweddoli dy fod wedi gwneud camgymeriad yn y gwaith?

Er fy mod yn berson ymarferol sy’n gallu defnyddio menter fy hun i ddatrys problemau, yn gyntaf oll fydde ni yn rhoi gwybod i fy rheolwr er mwyn sicrhau fy mod yn cymryd y camau cywir wrth ei ddatrys. Fyddaf hefyd yn defnyddio’r cyfle yma i wella a sicrhau ei fod ddim yn digwydd eto.

Beth yw dy gryfderau?

Un o fy nghryfderau allweddol yw’r gallu i amldasgio a gweithio dan bwysau i amserlenni caeth. Er enghraifft, rwyf ar hyn o bryd yn gweithio tuag at fy Lefelau A ac hefyd yn gweithio rhan amser mewn siop leol. Credaf bydd fy sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu yn fy ngalluogi i lwyddo fel ____________ o fewn eich cwmni.

Beth yw dy wendid mwyaf?

Weithiau, rwyf yn canolbwyntio gormod ar y manylion bychain ac yn treulio gormod o amser yn sicrhau bod popeth yn berffaith.

Rwyf wedi bod yn ymdrechu i wella yn y maes hwn trwy atgoffa fy hun o’r dasg ar law yn rheolaidd er mwyn ail-ffocysu ar y nod. Wrth wneud hyn, gallaf sicrhau fy mod dal yn cyflwyno gwaith o safon ond yn rheoli fy amser yn well i gwrdd â therfynau amser heb straen.

Dyma ragor o engreifftiau o gwestiynau cyfweld cyffredin i ti allu ymarfer cyn dy gyfweliad

Cwestiynau cyfweld cyffredin. A wyt yn gallu cyflwyno dy hun? A wyt erioed wedi cael profiad o swydd rhan amser neu adeg gwyliau? Os wyt, rho drosolwg o'r swydd ac esbonia dy brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau? Beth hoffet wneud ar ôl gadael yr ysgol? / Ble wyt yn gweld dy hun mewn 5 mlynedd? A wyt yn gallu esbonio amser wnes ti weithio fel rhan o dîm? Pa sgiliau/profiadau sydd gennyt sy'n dy wneud yn addas ar gyfer y rôl yma? Beth yw dy gryfderau / gwendidau? A wyt ti erioed wedi bod mewn safle o awdurdod yn yr ysgol neu yn dy fywyd cymdeithasol? Pa ddiddordebau sydd gennyt tu allan i'r ysgol?