THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

Llwyddo'n Lleol 2050

Mae ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 yma i ddangos i chi bod yna gyfleoedd cyffrous a dyfodol disglair ar gael yn ardaloedd Gorllewinol Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith. 

Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid. 

 

Mae 4 elfen i Llwyddo’n Lleol sef: 

 

Elfen Gyrfaol
Drwy’r elfen yma bydd Llwyddo’n Lleol 2050 yn amlygu’r cwmniau cyffrous sydd yn gweithredu mewn meysydd arloesol yng Ngorllewin Cymru gan ddefnyddio enghreifftiau o bobl sy’n gweithio yn y meysydd yma.

 

Elfen Mentro 

Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.

 

Elfen Ymgartrefu

Mi fyddwn yn cynnig cyfle i deuluoedd ac unigolion sy’n byw tu allan i ardal ARFOR i fod yn rhan o benwythnosau preswyl o fewn ardal ARFOR er mwyn cynnig profiadau o’r hyn sydd ar gael o fewn yr ardal ac ysgogi sgyrsiau o gwmpas potensial o ddychwelyd i’r ardal.


Elfen Profi

Cymera olwg ar y wefan hon i ddarganfod mwy am yr elfen Rydym ni ar hyn o bryd yn cydweithio gyda Llwyddo’n Lleol er mwyn arddangos y cyfleoedd yma sydd ar gael i ti lwyddo mewn gyrfa llewyrchus yn dy ardal leol.

 

Am fwy o wybodaeth, cer i wefan Llwyddo’n Lleol i ddarllen mwy am y prosiect:
Llwyddo’n Lleol 2050 | Prosiect Rhaglen Arfor (llwyddonlleol2050.cymru)