Profiad Gwaith
Beth yw Profiad Gwaith?
Mae’n gyfle i gael blas ar fyd gwaith. Gan ein bod yn treulio cymaint o’n hamser fel oedolyn yn y gwaith mae’n bwysig ein bod yn mwynhau beth rydym yn dewis gwneud fel gyrfa. Mae profiad gwaith yn gyfle i gael cipolwg gwerthfawr ar dy yrfa, datblygu sgiliau newydd, a hefyd yn gyfle i ychwanegu cynnwys at dy CV. Fel arfer, ni fyddi di’n cael dy dalu am wneud profiad gwaith.
Sut i ddod o hyd i brofiad gwaith?
Ar ôl i ti ddod o hyd i leoliad yr hoffet ti fynd ar brofiad gwaith, efallai bydd gofyn i ti ffonio neu e-bostio’r cwmni er mwyn gofyn neu i wneud trefniadau. Dyma awgrymiadau i dy helpu:
Beth sydd angen cadw mewn cof wrth fynd ar brofiad gwaith?
Cofia am y pwyntiau isod cyn, yn ystod ac ar ôl i ti fynd ar gyfnod profiad gwaith.
Ymchwilio
Paratoi
Iechyd a Diogelwch
Cadw dyddiadur/ Gwerthuso
Cofnodi dy brofiadau
Llythyr o ddiolch
Mae’n arfer dda i ddanfon llythyr o ddiolch i’r cwmni ar ôl i ti fod ar gyfnod o brofiad gwaith. Bydd hyn yn dangos i’r busnes dy fod yn broffesiynol ac wedi gwerthfawrogi’r profiad. Dyma rhai pwyntiau i dy helpu:
**COFIA**
Cyn i ti fynd ar brofiad gwaith, mae angen i ti ystyried sut i greu argraff dda. Fel arfer mae’r ffordd
rwyt yn ymddwyn yn y gwaith yn wahanol i’r ffordd rwyt yn ymddwyn gyda ffrindiau neu gyda theulu. Mae’n rhaid i ti ymddangos yn broffesiynol a chyfrifol ar bob amser, a dilyn rheolau iechyd a
diogelwch y gweithle. Os wyt yn cael profiad gwaith llwyddiannus, bydd y cyflogwr yn fwy parod i
gynnig geirda ar gyfer coleg, gwaith neu hyfforddiant pellach. Gall y cyfle arwain at swydd gyda’r
cwmni yn y dyfodol.