THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

Croeso i Wefan Profi

 

Bydd y wefan yma yn dy helpu i ddysgu mwy am sgiliau byd gwaith yn ogystal â chadw cofnod o dy ddatblygiad wrth i ti ymgymryd â phrofiadau a dysgu sgiliau newydd. 

 

Cofrestra nawr i fod yn rhan o’r cynllun ac i dderbyn cymorth.

Bydd yn cymryd llai na 2 funud i ti gwblhau

Adnoddau

Mae gyda ni amrywiaeth o adnoddau ar gael i dy gynorthwyo gyda phob agwedd o fyd gwaith.

cwis Sgiliau

Dyma i ti gwis sydd yn mesur dy sgiliau byd gwaith ac yn rhoi arweiniad i ti ar sut i’w datblygu.

Cyfleoedd

Chwilio am gyfle i ddatblygu dy sgiliau a chryfhau dy CV? Cer i’r adran yma i ddod o hyd i gyfleoedd.

Datblygu sgiliau byd
gwaith pobl Ifanc

Mae cynllun Profi yma i dy helpu i ddatblygu dy sgiliau byd gwaith. Gallwn dy helpu gydag unrhyw beth  i wneud â byd gwaith gan gynnwys…

"Diolch o galon am fy helpu ar sut mae creu CV. Byddaf bendant yn awgrymu i bobl i ddefnyddio eich gwasanaeth. "

Llais yr ifanc

“Diolch enfawr i chi am fy helpu gyda fy llythyr cyflwyno. Roedd eich sylwadau yn ddefnyddiol iawn i greu ymgais llwyddiannus.”

Llais yr ifanc

“Mae eich cymorth wedi fy helpu i ymchwilio ymhellach i fy yrfa dymunol.”

“Roedd gweld yr ystod eang o brofiad gwaith wedi fy ysbrydoli i feddwl am lefydd nad oeddwn yn gwybod amdanynt o’r blaen”

Holi Profi?

Pora’r wefan i ddarganfod mwy a chysyllta gyda ni os bod unrhyw gwestiynau gyda thi! Ni yma i dy helpu.

?

Gall cynllun Profi dy helpu gyda chymorth a chyngor ar dy daith o ysgol i fyd gwaith.

Tîm brwdfrydig sydd â phrofiad eang o gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau ydym ni. Rydym yn teimlo’n angerddol am annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a hunan hyder. 

Mae yna amrywiaeth o fideos apelgar a dogfennau ar y wefan. Galli di ddarganfod tips gwych i roi y cyfle gorau i ti ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd gwaith, dod o hyd i gyfleoedd ac ymgeisio am swyddi.

Rho dro i gwblhau’r cwis sgiliau er mwyn dod i adnabod dy sgiliau. Bydd yna adran canlyniadau a fydd yn unigryw i ti yn cynnwys ffordd i ti ddarganfod sut i wella y sgiliau sydd angen arnat ar gyfer dy yrfa.

Os wyt am unrhyw gymorth penodol, croeso i ti anfon neges neu godi’r ffôn. Cer draw i’n tudalen cysylltu i ddanfon neges i ni!