Podlediadau a Ffilmiau Gwynedd
Hamdden a Thwristiaeth
Pod Profi
Rydym ni wrthi yn datblygu’r adran hon ar hyn o bryd. Rydym yn golygu creu cyfres Pod Profi a ffilmiau byr gan sgwrsio gyda nifer o bobl sydd wedi ein hysbrydoli ni gan ddarganfod mwy am eu swyddi diddorol. Byddan nhw yn rhannu pa fath o sgiliau sydd angen i lwyddo yn y byd gwaith o fewn y sector Hamdden a Thwristiaeth.
Ffilmiau Profi
Dyma fideo gan staff Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru.
Am fwy o wybodaeth am y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Uchelgais Gogledd Cymru, gwylia’r fideo ‘Gwneud y Mwyaf o dy Botensial’ neu cer i’w gwefannau https://www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru/ a https://www.uchelgaisgogledd.cymru
Ffilmiau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi creu cyfres o ffilmiau sy'n amlinellu'r swyddi amrywiol, cyffrous sydd ar gael yn y sir.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Os wyt ti eisiau mwy o wybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cer i'w gwefan. Mae llawer o gyngor a gwybodaeth am sut y medru di barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
PodSheets
Dyma daflen wybodaeth am y sector Hamdden a Thwristiaeth yng Ngwynedd.
SGILIAU BYD GWAITH
Trwy gwblhau'r cwis, fe fyddi di'n dod i adnabod a mesur dy sgiliau er mwyn eu datblygu ar gyfer y byd gwaith. Dyma sgiliau sy'n werthfawr i ti ar gyfer dy lwybr gyrfa ar draws pob sector gwaith.