Teitl- Aelodau i Academi Newyddiaduraeth golwg360
Gwybodaeth-
“Ydych chi’n angerddol am adrodd straeon lleol? Eisiau datblygu eich sgiliau newyddiadurol yn y Gymraeg? Dyma gyfle unigryw i chi!
Rydym yn chwilio am 5 cyw-newyddiadurwr o 5 ardal wahanol yng Nghymru i ymuno ag Academi Newyddiaduraeth golwg360 – rhaglen hyfforddiant a mentora newydd sy’n para 4 mis.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
- Gweithio un diwrnod yr wythnos yn casglu a chyhoeddi straeon newyddion o’ch cymuned.
- Cynnal cyfleoedd sgwrsio wyneb yn wyneb i bobol leol am y straeon sy’n bwysig iddyn nhw.
- Cyd-gynhyrchu straeon gyda’r gymuned.
- Cyhoeddi’r straeon hynny ar blatfformau aml-gyfrwng golwg360.
Beth gewch chi?
- Hyfforddiant newyddiadurol gan olygyddion profiadol.
- Mentora personol.
- Tâl am eich gwaith.
- Profiad o weithio’n rhan o dîm o ohebwyr.
- Cyfle i gyfrannu’n ystyrlon at eich cymuned.”
Dyddiad Cau- 5.11.25
Linc-Aelodau i Academi Newyddiaduraeth golwg360 – Swyddi360