E-bost Proffesiynol
Sut i greu argraff dda.
Er mwyn creu argraff dda bydd angen i ti ddilyn y canllawiau canlynol wrth anfon e-bost proffesiynol. Dilyna’r templed isod ac yna defnyddia’r tipiau i dy helpu:
Beth sydd angen cynnwys mewn e-bost proffesiynol?
Er bydd manylion pob e bost proffesiynol yn amrywio, fel arfer mae angen yr un fath o gynnwys.
TIP 1
Cyfeiriad e-bost
Bydd angen i ti ddefnyddio cyfeiriad e-bost proffesiynol. Efallai bydd angen creu un newydd yn hytrach na defnyddio un gydag enw dwl.
TIP 3
Golwg
Defnyddia ffont clir a hawdd i'w ddarllen e.e. Arial, Times New Roman, Calibri maint 12 ac mewn du. Dylet osgoi defnyddio llythrennau trwm, italig neu brif-lythrennau i gyd.
TIP 2
Cywirdeb
Mae atalnodi a chywirdeb yn hynod bwysig mewn e-bost proffesiynol, nid neges destun yw hwn. Defnyddia raglen i gywiro’r e-bost cyn ei anfon.
TIP 4
Emoji ai peidio?
Paid â defnyddio eicon emosiwn (emoji) gan fod e-bost yn ffurfiol.
Dyma enghraifft o e-bost proffesiynol:
Gwylia'r fideo isod i ddefnyddio gwiriwr sillafu...
Tips ar gyfer atodi dogfen:
Mae’n bwysig dy fod yn…
Sicrha bod modd i bob derbynnydd agor y ddogfen a gysylltir;
Dylai pob atodiad fod ar ffurf Microsoft Excel, Word, PDF neu JPEG;
Paid â disgwyl i’r derbynnydd orfod creu cyfrif penodol cyn gallu agor atodiad;
Paid chwaith â disgwyl i’r derbynnydd agor dogfen gyda ffin amser arno;
Arbeda’r ddogfen gydag enw clir a phriodol.