THIS IS A TEMPLATE - DO NOT EDIT

Prentisiaeth

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn gwaith ag elfen o astudio. Mae prentisiaethau'n rhoi cyfle i ti ddysgu ar gyflog.

Sut ydw i'n gwybod mai prentisiaeth yw'r dewis cywir i mi?

Cwestiynau Cyffredin:

Cwestiwn 1

Sawl sector sydd yn cynnig prentisiaethau?
Mae yna brentisiaeth yn 23 o sectorau, ac ar gael ar bedair lefel.

Cwestiwn 3

Am ba mor hir mae'r brentisiaeth yn parhau?
Mae prentisiaethau yn para 1 i 4 blynedd, yn dibynnu ar eu lefel.

Cwestiwn 2

Ydw i'n gallu gwneud y brentisiaeth drwy'r Gymraeg?
Gall unigolion ddilyn hyfforddiant yn eu iaith ddewisol. Gall prentisiaid ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu Cymraeg yn y gweithle.

Beth fyddaf yn ei wneud fel Prentis?


Byddi di'n:
  • gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
  • datblygu sgiliau penodol i’r swydd
  • ennill cyflog, hyd yn oed pan fyddi di ar wyliau
  • cael amser i astudio (un diwrnod yr wythnos fel rheol)
  • cynyddu dy allu i ennill cyflog mwy
  • cael pecyn cymorth llawn, beth bynnag yw dy anghenion
  • cael cyfle i symud ymlaen drwy lefelau prentisiaeth gwahanol

Gwybodaeth

Gwasga yma i ddarganfod rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Gwybodaeth Prentisiaethau

Gwybodaeth

Gwefannau Defnyddiol

Cliciwch ar y lluniau isod o'r gwefannau defnyddiol i ddarganfod mwy.

Sut i ddod o hyd i brentisiaeth?

Mae amryw o gwmniau yn cynnig prentisiaethau. Meddylia pa waith yr hoffet ti ei wneud ac ymchwilia i'r sectorau hynny. I ddod o hyd i ysbrydoliaeth, edrycha ar ein tudalen "Cyfleoedd".

Chwilia yma am brentisiaethau

CYFLEOEDD

Ffilmiau Profi

Gwylia'r clip yma i ddarganfod mwy am raglen Prentisiaethau'r Urdd.

Ffilmiau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi creu cyfres o ffilmiau gyda phobl ifanc sydd wedi gwneud prentisiaeth mewn gwahanol sectorau.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Os wyt ti eisiau mwy o wybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cer i'w gwefan. Mae llawer o gyngor a gwybodaeth am sut y medru di barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cer i'w gwefan am fwy o fanylion

GWEFAN